Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 4:19-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Fy mol, fy mol; gofidus wyf o barwydennau fy nghalon; mae fy nghalon yn terfysgu ynof: ni allaf dewi, am i ti glywed sain yr utgorn, O fy enaid, a gwaedd rhyfel.

20. Dinistr ar ddinistr a gyhoeddwyd; canys yr holl dir a anrheithiwyd: yn ddisymwth y distrywiwyd fy lluestai i, a'm cortenni yn ddiatreg.

21. Pa hyd y gwelaf faner, ac y clywaf sain yr utgorn?

22. Canys y mae fy mhobl i yn ynfyd heb fy adnabod i; meibion angall ydynt, ac nid deallgar hwynt: y maent yn synhwyrol i wneuthur drwg, eithr gwneuthur da ni fedrant.

23. Mi a edrychais ar y ddaear, ac wele, afluniaidd a gwag oedd; ac ar y nefoedd, a goleuni nid oedd ganddynt.

24. Mi a edrychais ar y mynyddoedd, ac wele, yr oeddynt yn crynu; a'r holl fryniau a ymysgydwent.

25. Mi a edrychais, ac wele, nid oedd dyn, a holl adar y nefoedd a giliasent.

26. Mi a edrychais, ac wele y doldir yn anialwch, a'i holl ddinasoedd a ddistrywiasid o flaen yr Arglwydd, gan lidiowgrwydd ei ddicter ef.

27. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Y tir oll fydd diffeithwch: ac eto ni wnaf ddiben.

28. Am hynny y galara y ddaear, ac y tywylla y nefoedd oddi uchod: oherwydd dywedyd ohonof fi, Mi a'i bwriedais, ac ni bydd edifar gennyf, ac ni throaf oddi wrtho.

29. Rhag trwst y gwŷr meirch a'r saethyddion y ffy yr holl ddinas; hwy a ânt i'r drysni, ac a ddringant ar y creigiau: yr holl ddinasoedd a adewir, ac heb neb a drigo ynddynt.

30. A thithau yr anrheithiedig, beth a wnei? Er ymwisgo ohonot ag ysgarlad, er i ti ymdrwsio â thlysau aur, er i ti liwio dy wyneb â lliwiau, yn ofer y'th wnei dy hun yn deg; dy gariadau a'th ddirmygant, ac a geisiant dy einioes.

31. Canys clywais lef megis gwraig yn esgor, cyfyngder fel benyw yn esgor ar ei hetifedd cyntaf, llef merch Seion yn ochain, ac yn lledu ei dwylo, gan ddywedyd, Gwae fi yr awr hon! oblegid diffygiodd fy enaid gan leiddiaid.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 4