13. Wele, megis cymylau y daw i fyny, a'i gerbydau megis corwynt: ei feirch sydd ysgafnach na'r eryrod. Gwae nyni! canys ni a anrheithiwyd.
14. O Jerwsalem, golch dy galon oddi wrth ddrygioni, fel y byddech gadwedig: pa hyd y lletyi o'th fewn goeg amcanion?
15. Canys llef sydd yn mynegi allan o Dan, ac yn cyhoeddi cystudd allan o fynydd Effraim.
16. Coffewch i'r cenhedloedd, wele, cyhoeddwch yn erbyn Jerwsalem, ddyfod gwylwyr o wlad bell, a llefaru yn erbyn dinasoedd Jwda.
17. Megis ceidwaid maes y maent o amgylch yn ei herbyn; am iddi fy niclloni, medd yr Arglwydd.
18. Dy ffordd di a'th amcanion a wnaethant hyn i ti: dyma dy ddrygioni di; am ei fod yn chwerw, am ei fod yn cyrhaeddyd hyd at dy galon di.
19. Fy mol, fy mol; gofidus wyf o barwydennau fy nghalon; mae fy nghalon yn terfysgu ynof: ni allaf dewi, am i ti glywed sain yr utgorn, O fy enaid, a gwaedd rhyfel.