Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 38:19-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. A'r brenin Sedeceia a ddywedodd wrth Jeremeia, Yr ydwyf fi yn ofni yr Iddewon a giliasant at y Caldeaid, rhag iddynt hwy fy rhoddi i yn eu llaw hwynt, ac i'r rhai hynny fy ngwatwar.

20. A Jeremeia a ddywedodd, Ni roddant ddim: gwrando, atolwg, ar lais yr Arglwydd, yr hwn yr ydwyf fi yn ei draethu i ti; felly y bydd yn dda i ti, a'th enaid a fydd byw.

21. Ond os gwrthodi fyned allan, dyma y gair a ddangosodd yr Arglwydd i mi:

22. Ac wele, yr holl wragedd, y rhai a adawyd yn nhŷ brenin Jwda, a ddygir allan at dywysogion brenin Babilon; a hwy a ddywedant, Dy gyfeillion a'th hudasant, ac a'th orchfygasant; dy draed a lynasant yn y dom, a hwythau a droesant yn eu hôl.

23. Felly hwy a ddygant allan dy holl wragedd a'th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o'u llaw hwynt; canys â llaw brenin Babilon y'th ddelir; a'r ddinas hon a losgi â thân.

24. Yna y dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, Na chaffed neb wybod y geiriau hyn, ac ni'th roddir i farwolaeth.

25. Ond os y tywysogion a glywant i mi ymddiddan â thi, ac os deuant atat ti, a dywedyd wrthyt, Mynega yn awr i ni beth a draethaist ti wrth y brenin; na chela oddi wrthym ni, ac ni roddwn ni mohonot ti i farwolaeth; a pha beth a draethodd y brenin wrthyt tithau:

26. Yna dywed wrthynt, Myfi a weddïais yn ostyngedig gerbron y brenin, na yrrai efe fi drachefn i dŷ Jonathan, i farw yno.

27. Yna yr holl dywysogion a ddaethant at Jeremeia, ac a'i holasant ef: ac efe a fynegodd iddynt yn ôl yr holl eiriau hyn, y rhai a orchmynasai y brenin: felly hwy a beidiasant ag ymddiddan ag ef, canys ni chafwyd clywed y peth.

28. A Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy hyd y dydd yr enillwyd Jerwsalem; ac yno yr oedd efe pan enillwyd Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 38