Jeremeia 38:16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
Felly y brenin Sedeceia a dyngodd wrth Jeremeia yn gyfrinachol, gan ddywedyd, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn, ni roddaf fi di i farwolaeth, ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy einioes.