Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 36:16-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A phan glywsant yr holl eiriau, hwy a ofnasant bawb gyda'i gilydd; a hwy a ddywedasant wrth Baruch, Gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i'r brenin.

17. A hwy a ofynasant i Baruch, gan ddywedyd, Mynega i ni yn awr, Pa fodd yr ysgrifennaist ti yr holl eiriau hyn o'i enau ef?

18. Yna Baruch a ddywedodd wrthynt, Efe a draethodd yr holl eiriau hyn wrthyf fi â'i enau, a minnau a'u hysgrifennais hwynt yn y llyfr ag inc.

19. Yna y tywysogion a ddywedasant wrth Baruch, Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia; ac na wyped neb pa le y byddoch chwi.

20. A hwy a aethant at y brenin i'r cyntedd, (ond hwy a gadwasant y llyfr yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd,) ac a fynegasant yr holl eiriau lle y clybu y brenin.

21. A'r brenin a anfonodd Jehudi i gyrchu y llyfr. Ac efe a'i dug ef o ystafell Elisama yr ysgrifennydd. A Jehudi a'i darllenodd lle y clybu y brenin, a lle y clybu yr holl dywysogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin.

22. A'r brenin oedd yn eistedd yn y gaeafdy, yn y nawfed mis; a thân wedi ei gynnau ger ei fron.

23. A phan ddarllenasai Jehudi dair dalen neu bedair, yna efe a'i torrodd â chyllell ysgrifennydd, ac a'i bwriodd i'r tân oedd yn yr aelwyd, nes darfod o'r holl lyfr gan y tân oedd ar yr aelwyd.

24. Eto nid ofnasant, ac ni rwygasant eu dillad, na'r brenin, nac yr un o'i weision y rhai a glywsant yr holl eiriau hyn.

25. Eto Elnathan, a Delaia, a Gemareia, a ymbiliasant â'r brenin na losgai efe y llyfr; ond ni wrandawai efe arnynt.

26. Ond y brenin a orchmynnodd i Jerahmeel mab Hammelech, a Seraia mab Asriel, a Selemeia mab Abdiel, ddala Baruch yr ysgrifennydd, a Jeremeia y proffwyd: ond yr Arglwydd a'u cuddiodd hwynt.

27. Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, (wedi i'r brenin losgi y llyfr, a'r geiriau a ysgrifenasai Baruch o enau Jeremeia,) gan ddywedyd,

28. Cymer i ti eto lyfr arall, ac ysgrifenna arno yr holl eiriau cyntaf y rhai oedd yn y llyfr cyntaf, yr hwn a losgodd Jehoiacim brenin Jwda:

29. A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ti a losgaist y llyfr hwn, gan ddywedyd, Paham yr ysgrifennaist ynddo, gan ddywedyd, Diau y daw brenin Babilon, ac a anrheithia y wlad hon; ac efe a wna i ddyn ac i anifail ddarfod ohoni?

30. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am Jehoiacim brenin Jwda; Ni bydd iddo ef a eisteddo ar frenhinfainc Dafydd: a'i gelain ef a fwrir allan i wres y dydd, ac i rew y nos.

31. A mi a ymwelaf ag ef, ac â'i had, ac â'i weision, am eu hanwiredd; a mi a ddygaf arnynt hwy, ac ar drigolion Jerwsalem, ac ar wŷr Jwda, yr holl ddrwg a leferais i'w herbyn, ond ni wrandawsant.

32. Yna Jeremeia a gymerth lyfr arall, ac a'i rhoddodd at Baruch mab Nereia yr ysgrifennydd; ac efe a ysgrifennodd ynddo o enau Jeremeia holl eiriau y llyfr a losgasai Jehoiacim brenin Jwda yn tân: a chwanegwyd atynt eto eiriau lawer fel hwythau.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 36