Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 35:8-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A nyni a wrandawsom ar lais Jonadab mab Rechab ein tad, am bob peth a orchmynnodd efe i ni; nad yfem ni win ein holl ddyddiau, nyni, ein gwragedd, ein meibion, a'n merched;

9. Ac nad adeiladem i ni dai i'w preswylio; ac nid oes gennym na gwinllan, na maes, na had:

10. Eithr trigo a wnaethom mewn pebyll, a gwrando, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Jonadab ein tad i ni.

11. Ond pan ddaeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny i'r wlad, nyni a ddywedasom, Deuwch, ac awn i Jerwsalem, rhag llu y Caldeaid, a rhag llu yr Asyriaid: ac yn Jerwsalem yr ydym ni yn preswylio.

12. Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, gan ddywedyd,

13. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Dos, a dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, Oni chymerwch chwi addysg i wrando ar fy ngeiriau? medd yr Arglwydd.

14. Geiriau Jonadab mab Rechab, y rhai a orchmynnodd efe i'w feibion, nad yfent win, a gyflawnwyd: canys nid yfant hwy win hyd y dydd hwn; ond hwy a wrandawant ar orchymyn eu tad: a minnau a ddywedais wrthych chwi, gan godi yn fore, a llefaru; ond ni wrandawsoch arnaf.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 35