Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 35:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenhin Jwda, gan ddywedyd,

2. Dos di i dŷ y Rechabiaid, a llefara wrthynt, a phâr iddynt ddyfod i dŷ yr Arglwydd, i un o'r ystafelloedd, a dod iddynt win i'w yfed.

3. Yna myfi a gymerais Jaasaneia, mab Jeremeia, mab Habasineia, a'i frodyr, a'i holl feibion, a holl deulu y Rechabiaid;

4. A mi a'u dygais hwynt i dŷ yr Arglwydd, i ystafell meibion Hanan mab Igdaleia, gŵr i Dduw, yr hon oedd wrth ystafell y tywysogion, yr hon sydd goruwch ystafell Maaseia mab Salum, ceidwad y drws.

5. A mi a roddais gerbron meibion tŷ y Rechabiaid ffiolau yn llawn o win, a chwpanau, a mi a ddywedais wrthynt, Yfwch win.

6. Ond hwy a ddywedasant, Nid yfwn ni ddim gwin: oherwydd Jonadab mab Rechab ein tad a roddodd i ni orchymyn, gan ddywedyd, Nac yfwch win, na chwychwi na'ch plant, yn dragywydd:

7. Na adeiledwch dŷ, ac na heuwch had, ac na phlennwch winllan, ac na fydded gennych chwi: ond mewn pebyll y preswyliwch eich holl ddyddiau: fel y byddoch chwi fyw ddyddiau lawer ar wyneb y ddaear, lle yr ydych yn ddieithriaid.

8. A nyni a wrandawsom ar lais Jonadab mab Rechab ein tad, am bob peth a orchmynnodd efe i ni; nad yfem ni win ein holl ddyddiau, nyni, ein gwragedd, ein meibion, a'n merched;

9. Ac nad adeiladem i ni dai i'w preswylio; ac nid oes gennym na gwinllan, na maes, na had:

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 35