Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 34:2-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel; Dos, a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn rhoddi y ddinas hon i law brenin Babilon, ac efe a'i llysg hi â thân:

3. Ac ni ddihengi dithau o'i law ef, canys diau y'th ddelir, ac y'th roddir i'w law ef; a'th lygaid di a gânt weled llygaid brenin Babilon, a'i enau ef a ymddiddan â'th enau di, a thithau a ei i Babilon.

4. Er hynny, O Sedeceia brenin Jwda, gwrando air yr Arglwydd; Fel hyn y dywed yr Arglwydd amdanat ti, Ni byddi di farw trwy y cleddyf:

5. Mewn heddwch y byddi farw: a hwy a losgant beraroglau i ti, fel y llosgwyd i'th dadau, y brenhinoedd gynt, y rhai a fu o'th flaen di: a hwy a alarant amdanat ti, gan ddywedyd, O arglwydd! canys myfi a ddywedais y gair, medd yr Arglwydd.

6. Yna Jeremeia y proffwyd a lefarodd wrth Sedeceia brenin Jwda yr holl eiriau hyn yn Jerwsalem,

7. Pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda y rhai a adawsid, yn erbyn Lachis, ac yn erbyn Aseca: canys y dinasoedd caerog hyn a adawsid o ddinasoedd Jwda.

8. Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, wedi i'r brenin Sedeceia wneuthur cyfamod â'r holl bobl oedd yn Jerwsalem, am gyhoeddi iddynt ryddid;

9. I ollwng o bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai fyddent Hebread neu Hebrees, yn rhyddion; ac na cheisiai neb wasanaeth ganddynt, sef gan ei frawd o Iddew.

10. A phan glybu yr holl benaethiaid, a'r holl bobl y rhai a aethent i'r cyfamod, am ollwng o bob un ei wasanaethwr a phob un ei wasanaethferch yn rhyddion, fel na cheisient wasanaeth ganddynt mwyach, yna hwy a wrandawsant, ac a'u gollyngasant ymaith.

11. Ond wedi hynny yr edifarhaodd arnynt, a hwy a ddygasant yn eu hôl eu gweision a'u morynion, y rhai a ollyngasent yn rhyddion, ac a'u caethiwasant hwy yn weision ac yn forynion.

12. Am hynny y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,

13. Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Mi a wneuthum gyfamod â'ch tadau chwi, y dydd y dygais hwynt allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed, gan ddywedyd,

14. Ymhen saith mlynedd gollyngwch bob un ei frawd o Hebread, yr hwn a werthwyd i ti, ac a'th wasanaethodd chwe blynedd; gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt: ond ni wrandawodd eich tadau arnaf, ac ni ogwyddasant eu clustiau.

15. A chwithau a gymerasech edifeirwch heddiw, ac a wnaethech yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg, am gyhoeddi rhyddid bob un i'w gymydog; a chwi a wnaethech gyfamod yn fy ngŵydd i, yn y tŷ y gelwir fy enw arno:

16. Ond chwi a ddychwelasoch, ac a halogasoch fy enw, ac a ddygasoch yn eu hôl bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai a ollyngasech yn rhyddion wrth eu hewyllys eu hun: caethiwasoch hwynt hefyd i fod yn weision ac yn forynion i chwi.

17. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ni wrandawsoch arnaf fi, gan gyhoeddi rhyddid bob un i'w frawd, a phob un i'w gymydog: wele fi yn cyhoeddi i'ch erbyn, medd yr Arglwydd, ryddid i'r cleddyf, i'r haint, ac i'r newyn, ac mi a wnaf eich symud chwi i holl deyrnasoedd y ddaear.

18. A mi a roddaf y dynion a droseddodd fy nghyfamod, y rhai ni chwblhasant eiriau y cyfamod a wnaethant ger fy mron, wedi iddynt fyned rhwng rhannau y llo, yr hwn a holltasent yn ddau;

19. Tywysogion Jwda, a thywysogion Jerwsalem, yr ystafellyddion, a'r offeiriaid, a holl bobl y wlad y rhai a aethant rhwng rhannau y llo;

20. Ie, mi a'u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: a'u celain fydd yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 34