Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 34:16-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ond chwi a ddychwelasoch, ac a halogasoch fy enw, ac a ddygasoch yn eu hôl bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai a ollyngasech yn rhyddion wrth eu hewyllys eu hun: caethiwasoch hwynt hefyd i fod yn weision ac yn forynion i chwi.

17. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ni wrandawsoch arnaf fi, gan gyhoeddi rhyddid bob un i'w frawd, a phob un i'w gymydog: wele fi yn cyhoeddi i'ch erbyn, medd yr Arglwydd, ryddid i'r cleddyf, i'r haint, ac i'r newyn, ac mi a wnaf eich symud chwi i holl deyrnasoedd y ddaear.

18. A mi a roddaf y dynion a droseddodd fy nghyfamod, y rhai ni chwblhasant eiriau y cyfamod a wnaethant ger fy mron, wedi iddynt fyned rhwng rhannau y llo, yr hwn a holltasent yn ddau;

19. Tywysogion Jwda, a thywysogion Jerwsalem, yr ystafellyddion, a'r offeiriaid, a holl bobl y wlad y rhai a aethant rhwng rhannau y llo;

20. Ie, mi a'u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: a'u celain fydd yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.

21. A mi a roddaf Sedeceia brenin Jwda, a'i dywysogion, i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon, y rhai a aethant i fyny oddi wrthych.

22. Wele, mi a orchmynnaf, medd yr Arglwydd, ac a wnaf iddynt droi yn ôl at y ddinas hon, a hwy a ryfelant yn ei herbyn hi, ac a'i goresgynnant hi, ac a'i llosgant hi â thân: ac mi a wnaf ddinasoedd Jwda yn anghyfannedd heb breswylydd.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 34