Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 34:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, pan oedd Nebuchodonosor brenin Babilon, a'i holl lu, a holl deyrnasoedd y ddaear y rhai oedd dan lywodraeth ei law ef, a'r holl bobloedd, yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn ei holl ddinasoedd hi, gan ddywedyd,

2. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel; Dos, a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn rhoddi y ddinas hon i law brenin Babilon, ac efe a'i llysg hi â thân:

3. Ac ni ddihengi dithau o'i law ef, canys diau y'th ddelir, ac y'th roddir i'w law ef; a'th lygaid di a gânt weled llygaid brenin Babilon, a'i enau ef a ymddiddan â'th enau di, a thithau a ei i Babilon.

4. Er hynny, O Sedeceia brenin Jwda, gwrando air yr Arglwydd; Fel hyn y dywed yr Arglwydd amdanat ti, Ni byddi di farw trwy y cleddyf:

5. Mewn heddwch y byddi farw: a hwy a losgant beraroglau i ti, fel y llosgwyd i'th dadau, y brenhinoedd gynt, y rhai a fu o'th flaen di: a hwy a alarant amdanat ti, gan ddywedyd, O arglwydd! canys myfi a ddywedais y gair, medd yr Arglwydd.

6. Yna Jeremeia y proffwyd a lefarodd wrth Sedeceia brenin Jwda yr holl eiriau hyn yn Jerwsalem,

7. Pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda y rhai a adawsid, yn erbyn Lachis, ac yn erbyn Aseca: canys y dinasoedd caerog hyn a adawsid o ddinasoedd Jwda.

8. Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, wedi i'r brenin Sedeceia wneuthur cyfamod â'r holl bobl oedd yn Jerwsalem, am gyhoeddi iddynt ryddid;

9. I ollwng o bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai fyddent Hebread neu Hebrees, yn rhyddion; ac na cheisiai neb wasanaeth ganddynt, sef gan ei frawd o Iddew.

10. A phan glybu yr holl benaethiaid, a'r holl bobl y rhai a aethent i'r cyfamod, am ollwng o bob un ei wasanaethwr a phob un ei wasanaethferch yn rhyddion, fel na cheisient wasanaeth ganddynt mwyach, yna hwy a wrandawsant, ac a'u gollyngasant ymaith.

11. Ond wedi hynny yr edifarhaodd arnynt, a hwy a ddygasant yn eu hôl eu gweision a'u morynion, y rhai a ollyngasent yn rhyddion, ac a'u caethiwasant hwy yn weision ac yn forynion.

12. Am hynny y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 34