Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 33:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth at Jeremeia yr ail waith, ac efe eto yn garcharor yng nghyntedd y carchardy, gan ddywedyd,

2. Fel hyn y dywed yr Arglwydd yr hwn a'i gwnaeth, yr Arglwydd yr hwn a'i lluniodd i'w sicrhau, yr Arglwydd yw ei enw:

3. Galw arnaf, a mi a'th atebaf, ac a ddangosaf i ti bethau mawrion, a chedyrn, y rhai nis gwyddost.

4. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, am dai y ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y rhai a ddinistriwyd â pheiriannau rhyfel, ac â chleddyf;

5. Y maent yn dyfod i ymladd â'r Caldeaid, ond i'w llenwi â chelanedd dynion, y rhai a leddais yn fy llid a'm digofaint, ac am i mi guddio fy wyneb oddi wrth y ddinas hon am eu holl ddrygioni hwynt.

6. Wele, myfi a ddygaf iddi hi iechyd a meddyginiaeth, a mi a'u meddyginiaethaf hwynt, ac a ddatguddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd.

7. A mi a ddychwelaf gaethiwed Jwda, a chaethiwed Israel, a mi a'u hadeiladaf hwynt megis yn y dechreuad.

8. A mi a'u puraf hwynt oddi wrth eu holl anwiredd a bechasant i'm herbyn; a mi a faddeuaf iddynt eu holl bechodau trwy y rhai y pechasant i'm herbyn, a thrwy y rhai y troseddasant yn fy erbyn.

9. A hyn fydd i mi yn enw llawenydd, yn glod ac yn ogoniant, o flaen holl genhedloedd y ddaear, y rhai a glywant yr holl ddaioni yr ydwyf fi yn ei wneuthur iddynt: a hwythau a ofnant ac a grynant am yr holl ddaioni a'r holl lwyddiant yr ydwyf fi yn eu gwneuthur i'r ddinas hon.

10. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Clywir eto yn y lle hwn, (am yr hwn y dywedwch, Anialwch yw efe, heb ddyn ac heb anifail, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, y rhai a wnaed yn anghyfannedd, heb ddyn, ac heb breswylwr, ac heb anifail,)

11. Llef gorfoledd a llef llawenydd, llef y priodfab a llef y briodferch, llef rhai yn dywedyd, Molwch Arglwydd y lluoedd; oherwydd daionus yw yr Arglwydd, oblegid ei drugaredd a bery yn dragywydd; llef rhai yn dwyn offrwm moliant i dŷ yr Arglwydd: canys mi a ddychwelaf gaethiwed y wlad, megis yn y dechreuad, medd yr Arglwydd.

12. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Bydd eto yn y lle yma, yr hwn sydd anghyfanheddol heb ddyn ac heb anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, drigfa bugeiliaid yn corlannu y praidd.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 33