Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 32:1-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd yn y ddegfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, honno oedd y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor.

2. Canys y pryd hwnnw yr oedd llu brenin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem: a Jeremeia y proffwyd ydoedd wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, yr hwn oedd yn nhŷ brenin Jwda.

3. Canys Sedeceia brenin Jwda a gaeasai arno ef, gan ddywedyd, Paham y proffwydi, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, mi a roddaf y ddinas hon yn llaw brenin Babilon, ac efe a'i hennill hi;

4. Ac ni ddianc Sedeceia brenin Jwda o law y Caldeaid, ond efe a roddir yn ddiau yn llaw brenin Babilon, ac efe a ymddiddan ag ef enau yng ngenau, a'i lygaid ef a edrychant yn ei lygaid yntau;

5. Ac efe a arwain Sedeceia i Babilon, ac yno y bydd efe hyd oni ymwelwyf fi ag ef, medd yr Arglwydd: er i chwi ymladd â'r Caldeaid, ni lwyddwch.

6. A Jeremeia a lefarodd, Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd,

7. Wele Hanameel mab Salum dy ewythr yn dyfod atat, gan ddywedyd, Prŷn i ti fy maes, yr hwn sydd yn Anathoth: oblegid i ti y mae cyfiawnder y pryniad i'w brynu ef.

8. Felly Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad a ddaeth ataf fi i gyntedd y carchardy, yn ôl gair yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrthyf, Prŷn, atolwg, fy maes sydd yn Anathoth yn nhir Benjamin: canys i ti y mae cyfiawnder yr etifeddiaeth, ac i ti y perthyn ei ollwng; prŷn ef i ti. Yna y gwybûm mai gair yr Arglwydd oedd hwn.

9. A mi a brynais y maes oedd yn Anathoth gan Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad, ac a bwysais iddo yr arian, saith sicl a deg darn o arian.

10. A mi a ysgrifennais hyn mewn llyfr, ac a'i seliais; cymerais hefyd dystion, a phwysais yr arian mewn cloriannau.

11. Yna mi a gymerais lyfr y pryniad, sef yr hwn oedd wedi ei selio wrth gyfraith a defod, a'r hwn oedd yn agored.

12. A mi a roddais lyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, mab Maaseia, yng ngŵydd Hanameel mab fy ewythr, ac yng ngŵydd y tystion a ysgrifenasent lyfr y prynedigaeth, yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y carchardy.

13. A mi a orchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwynt, gan ddywedyd,

14. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Cymer y llyfrau hyn, sef y llyfr hwn o'r pryniad yr hwn sydd seliedig, a'r llyfr agored hwn, a dod hwynt mewn llestr pridd, fel y parhaont ddyddiau lawer.

15. Oherwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Tai, a meysydd, a gwinllannoedd, a feddiennir eto yn y wlad hon.

16. Ac wedi i mi roddi llyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, myfi a weddïais ar yr Arglwydd, gan ddywedyd,

17. O Arglwydd Dduw, wele, ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaear, â'th fawr allu ac â'th fraich estynedig; nid oes dim rhy anodd i ti.

18. Yr wyt yn gwneuthur trugaredd i filoedd, ac yn talu anwireddau y tadau i fynwes eu meibion ar eu hôl hwynt: y Duw mawr, cadarn, Arglwydd y lluoedd yw ei enw;

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 32