Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 31:5-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ti a blenni eto winllannoedd ym mynyddoedd Samaria: y planwyr a blannant, ac a'u mwynhânt yn gyffredin.

6. Canys daw y dydd y llefa y gwylwyr ym mynydd Effraim, Codwch, ac awn i fyny i Seion at yr Arglwydd ein Duw.

7. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Cenwch orfoledd i Jacob, a chrechwenwch ymhlith rhai pennaf y cenhedloedd: cyhoeddwch, molwch, a dywedwch, O Arglwydd, cadw dy bobl, gweddill Israel.

8. Wele, mi a'u harweiniaf hwynt o dir y gogledd, ac a'u casglaf hwynt o ystlysau y ddaear, y dall a'r cloff, y feichiog a'r hon sydd yn esgor, ar unwaith gyda hwynt: cynulleidfa fawr a ddychwelant yma.

9. Mewn wylofain y deuant, ac mewn tosturiaethau y dygaf hwynt: gwnaf iddynt rodio wrth ffrydiau dyfroedd mewn ffordd union yr hon ni thripiant ynddi: oblegid myfi sydd dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntaf‐anedig.

10. Gwrandewch air yr Arglwydd, O genhedloedd, a mynegwch yn yr ynysoedd o bell, a dywedwch, Yr hwn a wasgarodd Israel, a'i casgl ef, ac a'i ceidw fel bugail ei braidd.

11. Oherwydd yr Arglwydd a waredodd Jacob, ac a'i hachubodd ef o law yr hwn oedd drech nag ef.

12. Am hynny y deuant, ac y canant yn uchelder Seion; a hwy a redant at ddaioni yr Arglwydd, am wenith, ac am win, ac am olew, ac am epil y defaid a'r gwartheg: a'u henaid fydd fel gardd ddyfradwy; ac ni ofidiant mwyach.

13. Yna y llawenycha y forwyn yn y dawns, a'r gwŷr ieuainc a'r hynafgwyr ynghyd: canys myfi a droaf eu galar yn llawenydd, ac a'u diddanaf hwynt, ac a'u llawenychaf o'u tristwch.

14. A mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid â braster, a'm pobl a ddigonir â'm daioni, medd yr Arglwydd.

15. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Llef a glywyd yn Rama, cwynfan ac wylofain chwerw; Rahel yn wylo am ei meibion, ni fynnai ei chysuro am ei meibion, oherwydd nad oeddynt.

16. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Atal dy lef rhag wylo, a'th lygaid rhag dagrau: canys y mae tâl i'th lafur, medd yr Arglwydd; a hwy a ddychwelant o dir y gelyn.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 31