Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 31:29-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Yn y dyddiau hynny ni ddywedant mwyach, Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod.

30. Ond pob un a fydd farw yn ei anwiredd ei hun: pob un a'r a fwytao rawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.

31. Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel, ac â thŷ Jwda:

32. Nid fel y cyfamod a wneuthum â'u tadau hwynt ar y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i'w dwyn allan o dir yr Aifft; yr hwn fy nghyfamod a ddarfu iddynt hwy ei ddiddymu, er fy mod i yn briod iddynt, medd yr Arglwydd.

33. Ond dyma y cyfamod a wnaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a roddaf fy nghyfraith o'u mewn hwynt, ac a'i hysgrifennaf hi yn eu calonnau hwynt; a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant yn bobl i mi.

34. Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnabyddwch yr Arglwydd: oherwydd hwynt‐hwy oll o'r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt a'm hadnabyddant, medd yr Arglwydd; oblegid mi a faddeuaf eu hanwiredd, a'u pechod ni chofiaf mwyach.

35. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn sydd yn rhoddi yr haul yn oleuni dydd, defodau y lloer a'r sêr yn oleuni nos, yr hwn sydd yn rhwygo y môr pan ruo ei donnau; Arglwydd y lluoedd yw ei enw:

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 31