27. Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail.
28. Ac megis y gwyliais arnynt i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, ac i ddinistrio, ac i ddifetha, ac i ddrygu; felly y gwyliaf arnynt i adeiladu ac i blannu, medd yr Arglwydd.
29. Yn y dyddiau hynny ni ddywedant mwyach, Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod.
30. Ond pob un a fydd farw yn ei anwiredd ei hun: pob un a'r a fwytao rawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.
31. Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel, ac â thŷ Jwda:
32. Nid fel y cyfamod a wneuthum â'u tadau hwynt ar y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i'w dwyn allan o dir yr Aifft; yr hwn fy nghyfamod a ddarfu iddynt hwy ei ddiddymu, er fy mod i yn briod iddynt, medd yr Arglwydd.
33. Ond dyma y cyfamod a wnaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a roddaf fy nghyfraith o'u mewn hwynt, ac a'i hysgrifennaf hi yn eu calonnau hwynt; a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant yn bobl i mi.
34. Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnabyddwch yr Arglwydd: oherwydd hwynt‐hwy oll o'r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt a'm hadnabyddant, medd yr Arglwydd; oblegid mi a faddeuaf eu hanwiredd, a'u pechod ni chofiaf mwyach.
35. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn sydd yn rhoddi yr haul yn oleuni dydd, defodau y lloer a'r sêr yn oleuni nos, yr hwn sydd yn rhwygo y môr pan ruo ei donnau; Arglwydd y lluoedd yw ei enw:
36. Os cilia y defodau hynny o'm gŵydd i, medd yr Arglwydd, yna had Israel a baid â bod yn genedl ger fy mron i yn dragywydd.
37. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Os gellir mesur y nefoedd oddi uchod, a chwilio sylfeini y ddaear hyd isod, minnau hefyd a wrthodaf holl had Israel, am yr hyn oll a wnaethant hwy, medd yr Arglwydd.
38. Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, yr adeiledir y ddinas i'r Arglwydd, o dŵr Hananeel hyd borth y gongl.
39. A'r llinyn mesur a â allan eto ar ei gyfer ef, ar fryn Gareb, ac a amgylcha hyd Goath.
40. A holl ddyffryn y celaneddau, a'r lludw, a'r holl feysydd, hyd afon Cidron, hyd gongl porth y meirch tua'r dwyrain, a fydd sanctaidd i'r Arglwydd; nis diwreiddir, ac nis dinistrir mwyach byth.