Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 30:7-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Och! canys mawr yw y dydd hwn, heb gyffelyb iddo: amser blinder yw hwn i Jacob; ond efe a waredir ohono.

8. Canys y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y torraf fi ei iau ef oddi ar dy war di, a mi a ddrylliaf dy rwymau, ac ni chaiff dieithriaid wneuthur iddo ef eu gwasanaethu hwynt mwyach.

9. Eithr hwy a wasanaethant yr Arglwydd eu Duw, a Dafydd eu brenin, yr hwn a godaf fi iddynt.

10. Ac nac ofna di, O fy ngwas Jacob, medd yr Arglwydd; ac na frawycha di, O Israel: canys wele, mi a'th achubaf di o bell, a'th had o dir eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a gaiff lonydd, ac ni bydd a'i dychryno.

11. Canys yr ydwyf fi gyda thi, medd yr Arglwydd, i'th achub di: er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd lle y'th wasgerais, eto ni wnaf ben amdanat ti; eithr mi a'th geryddaf di mewn barn, ac ni'th adawaf yn gwbl ddigerydd.

12. Oblegid fel hyn y dywed yr Arglwydd; Anafus yw dy ysictod, a dolurus yw dy archoll.

13. Nid oes a ddadleuo dy gŵyn, fel y'th iachaer; nid oes feddyginiaeth iechyd i ti.

14. Dy holl gariadau a'th anghofiasant: ni cheisiant mohonot ti; canys mi a'th drewais â dyrnod gelyn, sef â chosbedigaeth y creulon, am amlder dy anwiredd: oblegid dy bechodau a amlhasant.

15. Paham y bloeddi am dy ysictod? anafus yw dy ddolur, gan amlder dy anwiredd: oherwydd amlhau o'th bechodau y gwneuthum hyn i ti.

16. Am hynny y rhai oll a'th ysant a ysir; a chwbl o'th holl elynion a ânt i gaethiwed; a'th anrheithwyr di a fyddant yn anrhaith, a'th holl ysbeilwyr a roddaf fi yn ysbail.

17. Canys myfi a roddaf iechyd i ti, ac a'th iachâf di o'th friwiau, medd yr Arglwydd; oblegid hwy a'th alwasant di, Yr hon a yrrwyd ymaith, gan ddywedyd, Dyma Seion, yr hon nid oes neb yn ei cheisio.

18. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob, ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef; a'r ddinas a adeiledir ar ei charnedd, a'r llys a erys yn ôl ei arfer.

19. A moliant a â allan ohonynt, a llais rhai yn gorfoleddu: a mi a'u hamlhaf hwynt, ac ni byddant anaml; a mi a'u hanrhydeddaf hwynt, ac ni byddant wael.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 30