Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 30:17-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Canys myfi a roddaf iechyd i ti, ac a'th iachâf di o'th friwiau, medd yr Arglwydd; oblegid hwy a'th alwasant di, Yr hon a yrrwyd ymaith, gan ddywedyd, Dyma Seion, yr hon nid oes neb yn ei cheisio.

18. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob, ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef; a'r ddinas a adeiledir ar ei charnedd, a'r llys a erys yn ôl ei arfer.

19. A moliant a â allan ohonynt, a llais rhai yn gorfoleddu: a mi a'u hamlhaf hwynt, ac ni byddant anaml; a mi a'u hanrhydeddaf hwynt, ac ni byddant wael.

20. Eu meibion hefyd fydd megis cynt, a'u cynulleidfa a sicrheir ger fy mron; a mi a ymwelaf â'u holl orthrymwyr hwynt.

21. A'u pendefigion fydd ohonynt eu hun, a'u llywiawdwr a ddaw allan o'u mysg eu hun; a mi a baraf iddo nesáu, ac efe a ddaw ataf: canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i nesáu ataf fi? medd yr Arglwydd.

22. A chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw i chwithau.

23. Wele gorwynt yr Arglwydd yn myned allan mewn dicter, corwynt parhaus; ar ben annuwiolion yr erys.

24. Ni ddychwel digofaint llidiog yr Arglwydd, nes iddo ei wneuthur, ac nes iddo gyflawni meddyliau ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 30