Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 30:1-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,

2. Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd, Duw Israel, gan ddywedyd, Ysgrifenna i ti yr holl eiriau a leferais i wrthyt mewn llyfr.

3. Canys wele y ddyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd, i mi ddychwelyd caethiwed fy mhobl Israel a Jwda, medd yr Arglwydd: a mi a'u dygaf hwynt drachefn i'r wlad a roddais i'w tadau, a hwy a'i meddiannant hi.

4. Dyma hefyd y geiriau a lefarodd yr Arglwydd am Israel, ac am Jwda:

5. Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd; Llef dychryn a glywsom ni, ofn, ac nid heddwch.

6. Gofynnwch yr awr hon, ac edrychwch a esgora gwryw; paham yr ydwyf fi yn gweled pob gŵr â'i ddwylo ar ei lwynau, fel gwraig wrth esgor, ac y trowyd yr holl wynebau yn lesni?

7. Och! canys mawr yw y dydd hwn, heb gyffelyb iddo: amser blinder yw hwn i Jacob; ond efe a waredir ohono.

8. Canys y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y torraf fi ei iau ef oddi ar dy war di, a mi a ddrylliaf dy rwymau, ac ni chaiff dieithriaid wneuthur iddo ef eu gwasanaethu hwynt mwyach.

9. Eithr hwy a wasanaethant yr Arglwydd eu Duw, a Dafydd eu brenin, yr hwn a godaf fi iddynt.

10. Ac nac ofna di, O fy ngwas Jacob, medd yr Arglwydd; ac na frawycha di, O Israel: canys wele, mi a'th achubaf di o bell, a'th had o dir eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a gaiff lonydd, ac ni bydd a'i dychryno.

11. Canys yr ydwyf fi gyda thi, medd yr Arglwydd, i'th achub di: er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd lle y'th wasgerais, eto ni wnaf ben amdanat ti; eithr mi a'th geryddaf di mewn barn, ac ni'th adawaf yn gwbl ddigerydd.

12. Oblegid fel hyn y dywed yr Arglwydd; Anafus yw dy ysictod, a dolurus yw dy archoll.

13. Nid oes a ddadleuo dy gŵyn, fel y'th iachaer; nid oes feddyginiaeth iechyd i ti.

14. Dy holl gariadau a'th anghofiasant: ni cheisiant mohonot ti; canys mi a'th drewais â dyrnod gelyn, sef â chosbedigaeth y creulon, am amlder dy anwiredd: oblegid dy bechodau a amlhasant.

15. Paham y bloeddi am dy ysictod? anafus yw dy ddolur, gan amlder dy anwiredd: oherwydd amlhau o'th bechodau y gwneuthum hyn i ti.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 30