3. Yn llaw Elasa mab Saffan, a Gemareia mab Hilceia, y rhai a anfonodd Sedeceia brenin Jwda at Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, gan ddywedyd,
4. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, wrth yr holl gaethglud, yr hon a berais ei chaethgludo o Jerwsalem i Babilon;
5. Adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddynt; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.
6. Cymerwch wragedd, ac enillwch feibion a merched; a chymerwch wragedd i'ch meibion, a rhoddwch eich merched i wŷr, fel yr esgoront ar feibion a merched, ac yr amlhaoch chwi yno, ac na leihaoch.
7. Ceisiwch hefyd heddwch y ddinas yr hon y'ch caethgludais iddi, a gweddïwch ar yr Arglwydd drosti hi; canys yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwithau.
8. Oherwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Na thwylled eich proffwydi y rhai sydd yn eich mysg chwi mohonoch, na'ch dewiniaid; ac na wrandewch ar eich breuddwydion y rhai yr ydych chwi yn peri eu breuddwydio:
9. Canys y maent hwy yn proffwydo i chwi ar gelwydd yn fy enw i; ni anfonais i mohonynt, medd yr Arglwydd.
10. Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pan gyflawner yn Babilon ddeng mlynedd a thrigain, yr ymwelaf â chwi, ac a gyflawnaf â chwi fy ngair daionus, trwy eich dwyn chwi drachefn i'r lle hwn.
11. Oblegid myfi a wn y meddyliau yr wyf fi yn eu meddwl amdanoch chwi, medd yr Arglwydd, meddyliau heddwch ac nid niwed, i roddi i chwi y diwedd yr ydych chwi yn ei ddisgwyl.