Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 29:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dyma eiriau y llythyr a anfonodd Jeremeia y proffwyd o Jerwsalem at weddill henuriaid y gaethglud, ac at yr offeiriaid, ac at y proffwydi, ac at yr holl bobl y rhai a gaethgludasai Nebuchodonosor o Jerwsalem i Babilon;

2. (Wedi myned Jechoneia y brenin, a'r frenhines, a'r ystafellyddion, tywysogion Jwda a Jerwsalem, a'r seiri a'r gofaint, allan o Jerwsalem;)

3. Yn llaw Elasa mab Saffan, a Gemareia mab Hilceia, y rhai a anfonodd Sedeceia brenin Jwda at Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, gan ddywedyd,

4. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, wrth yr holl gaethglud, yr hon a berais ei chaethgludo o Jerwsalem i Babilon;

5. Adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddynt; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.

6. Cymerwch wragedd, ac enillwch feibion a merched; a chymerwch wragedd i'ch meibion, a rhoddwch eich merched i wŷr, fel yr esgoront ar feibion a merched, ac yr amlhaoch chwi yno, ac na leihaoch.

7. Ceisiwch hefyd heddwch y ddinas yr hon y'ch caethgludais iddi, a gweddïwch ar yr Arglwydd drosti hi; canys yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwithau.

8. Oherwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Na thwylled eich proffwydi y rhai sydd yn eich mysg chwi mohonoch, na'ch dewiniaid; ac na wrandewch ar eich breuddwydion y rhai yr ydych chwi yn peri eu breuddwydio:

9. Canys y maent hwy yn proffwydo i chwi ar gelwydd yn fy enw i; ni anfonais i mohonynt, medd yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 29