Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 28:2-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Myfi a dorrais iau brenin Babilon.

3. O fewn ysbaid dwy flynedd myfi a ddygaf drachefn i'r lle hwn holl lestri tŷ yr Arglwydd, y rhai a gymerth Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith o'r lle hwn, ac a'u dug i Babilon;

4. Ac mi a ddygaf Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda, y rhai a aethant i Babilon, drachefn i'r lle hwn, medd yr Arglwydd; canys mi a dorraf iau brenin Babilon.

5. Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, yng ngŵydd yr offeiriaid, ac yng ngŵydd yr holl bobl, y rhai oedd yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd;

6. Ie, y proffwyd Jeremeia a ddywedodd, Amen, poed felly y gwnelo yr Arglwydd: yr Arglwydd a gyflawno dy eiriau di, y rhai a broffwydaist, am ddwyn drachefn lestri tŷ yr Arglwydd, a'r holl gaethglud, o Babilon i'r lle hwn.

7. Eto, gwrando di yr awr hon y gair yma, yr hwn a lefaraf fi lle y clywech di a lle clywo yr holl bobl;

8. Y proffwydi y rhai a fuant o'm blaen i, ac o'th flaen dithau erioed, a broffwydasant yn erbyn gwledydd lawer, ac yn erbyn teyrnasoedd mawrion, am ryfel, ac am ddrygfyd, ac am haint.

9. Y proffwyd a broffwydo am heddwch, pan ddêl gair y proffwyd i ben, yr adnabyddir y proffwyd, mai yr Arglwydd a'i hanfonodd ef mewn gwirionedd.

10. Yna Hananeia y proffwyd a gymerodd y gefyn oddi am wddf Jeremeia y proffwyd, ac a'i torrodd ef.

11. A Hananeia a lefarodd yng ngŵydd yr holl bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y modd hyn y torraf fi iau Nebuchodonosor brenin Babilon o fewn ysbaid dwy flynedd oddi ar war pob cenedl. A Jeremeia y proffwyd a aeth i ffordd.

12. Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia y proffwyd, wedi i Hananeia y proffwyd dorri y gefyn oddi am wddf y proffwyd Jeremeia, gan ddywedyd,

13. Dos di, a dywed i Hananeia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Gefynnau pren a dorraist ti; ond ti a wnei yn eu lle hwynt efynnau o haearn.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 28