Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 27:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,

2. Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf, Gwna i ti rwymau a gefynnau, a dod hwynt am dy wddf;

3. Ac anfon hwynt at frenin Edom, ac at frenin Moab, ac at frenin meibion Ammon, ac at frenin Tyrus, ac at frenin Sidon, yn llaw y cenhadau a ddelo i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda;

4. A gorchymyn iddynt ddywedyd wrth eu harglwyddi, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Fel hyn y dywedwch wrth eich arglwyddi;

5. Myfi a wneuthum y ddaear, y dyn a'r anifail sydd ar wyneb y ddaear, â'm grym mawr, ac â'm braich estynedig, ac a'u rhoddais hwynt i'r neb y gwelais yn dda.

6. Ac yn awr mi a roddais yr holl diroedd hyn yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas; a mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes i'w wasanaethu ef.

7. A'r holl genhedloedd a'i gwasanaethant ef, a'i fab, a mab ei fab, nes dyfod gwir amser ei wlad ef; yna cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddo ef.

8. Ond y genedl a'r deyrnas nis gwasanaetho ef, sef Nebuchodonosor brenin Babilon, a'r rhai ni roddant eu gwddf dan iau brenin Babilon; â'r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, yr ymwelaf â'r genedl honno, medd yr Arglwydd, nes i mi eu difetha hwynt trwy ei law ef.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 27