5. I wrando ar eiriau fy ngweision y proffwydi, y rhai a anfonais atoch, gan godi yn fore, ac anfon, ond ni wrandawsoch chwi;
6. Yna y gwnaf y tŷ hwn fel Seilo, a'r ddinas hon a wnaf yn felltith i holl genhedloedd y ddaear.
7. Yr offeiriaid hefyd, a'r proffwydi, a'r holl bobl a glywsant Jeremeia yn llefaru y geiriau hyn yn nhŷ yr Arglwydd.
8. A phan ddarfu i Jeremeia lefaru yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd ei ddywedyd wrth yr holl bobl; yna yr offeiriaid, a'r proffwydi, a'r holl bobl a'i daliasant ef, gan ddywedyd, Ti a fyddi farw yn ddiau.
9. Paham y proffwydaist yn enw yr Arglwydd, gan ddywedyd, Fel Seilo y bydd y tŷ hwn, a'r ddinas hon a wneir yn anghyfannedd heb breswyliwr? Felly ymgasglodd yr holl bobl yn erbyn Jeremeia yn nhŷ yr Arglwydd.
10. Pan glybu tywysogion Jwda y geiriau hyn, yna hwy a ddaethant i fyny o dŷ y brenin i dŷ yr Arglwydd, ac a eisteddasant ar ddrws porth newydd tŷ yr Arglwydd.
11. Yna yr offeiriaid a'r proffwydi a lefarasant wrth y tywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddywedyd, Barn marwolaeth sydd ddyledus i'r gŵr hwn: canys efe a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, megis y clywsoch â'ch clustiau.