Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 26:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,

2. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Saf yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd, a llefara wrth holl ddinasoedd Jwda, y rhai a ddêl i addoli i dŷ yr Arglwydd, yr holl eiriau a orchmynnwyf i ti eu llefaru wrthynt; na atal air:

3. I edrych a wrandawant, ac a ddychwelant bob un o'i ffordd ddrwg; fel yr edifarhawyf finnau am y drwg a amcenais ei wneuthur iddynt, am ddrygioni eu gweithredoedd.

4. A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oni wrandewch arnaf i rodio yn fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eich bron,

5. I wrando ar eiriau fy ngweision y proffwydi, y rhai a anfonais atoch, gan godi yn fore, ac anfon, ond ni wrandawsoch chwi;

6. Yna y gwnaf y tŷ hwn fel Seilo, a'r ddinas hon a wnaf yn felltith i holl genhedloedd y ddaear.

7. Yr offeiriaid hefyd, a'r proffwydi, a'r holl bobl a glywsant Jeremeia yn llefaru y geiriau hyn yn nhŷ yr Arglwydd.

8. A phan ddarfu i Jeremeia lefaru yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd ei ddywedyd wrth yr holl bobl; yna yr offeiriaid, a'r proffwydi, a'r holl bobl a'i daliasant ef, gan ddywedyd, Ti a fyddi farw yn ddiau.

9. Paham y proffwydaist yn enw yr Arglwydd, gan ddywedyd, Fel Seilo y bydd y tŷ hwn, a'r ddinas hon a wneir yn anghyfannedd heb breswyliwr? Felly ymgasglodd yr holl bobl yn erbyn Jeremeia yn nhŷ yr Arglwydd.

10. Pan glybu tywysogion Jwda y geiriau hyn, yna hwy a ddaethant i fyny o dŷ y brenin i dŷ yr Arglwydd, ac a eisteddasant ar ddrws porth newydd tŷ yr Arglwydd.

11. Yna yr offeiriaid a'r proffwydi a lefarasant wrth y tywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddywedyd, Barn marwolaeth sydd ddyledus i'r gŵr hwn: canys efe a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, megis y clywsoch â'ch clustiau.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 26