Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 25:36-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

36. Clywir llef gwaedd y bugeiliaid, ac udfa blaenoriaid y praidd: canys yr Arglwydd a anrheithiodd eu porfa hwynt.

37. A'r anheddau heddychlon a ddryllir, gan lid digofaint yr Arglwydd.

38. Efe a wrthododd ei loches, fel cenau llew: canys y mae eu tir yn anghyfannedd, gan lid y gorthrymwr, a chan lid ei ddigofaint ef.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 25