Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 25:3-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Er y drydedd flwyddyn ar ddeg i Joseia mab Amon brenin Jwda, hyd y dydd hwn, honno yw y drydedd flwyddyn ar hugain, y daeth gair yr Arglwydd ataf, ac mi a ddywedais wrthych, gan foregodi a llefaru, ond ni wrandawsoch.

4. A'r Arglwydd a anfonodd atoch chwi ei holl weision y proffwydi, gan foregodi a'u hanfon; ond ni wrandawsoch, ac ni ogwyddasoch eich clust i glywed.

5. Hwy a ddywedent, Dychwelwch yr awr hon bob un oddi wrth ei ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eich gweithredoedd; a thrigwch yn y tir a roddodd yr Arglwydd i chwi ac i'ch tadau, byth ac yn dragywydd:

6. Ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu, ac i ymgrymu iddynt; ac na lidiwch fi â gweithredoedd eich dwylo, ac ni wnaf niwed i chwi.

7. Er hynny ni wrandawsoch arnaf, medd yr Arglwydd, fel y digiech fi â gweithredoedd eich dwylo, er drwg i chwi eich hunain.

8. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau,

9. Wele, mi a anfonaf ac a gymeraf holl deuluoedd y gogledd, medd yr Arglwydd, a Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a'u dygaf hwynt yn erbyn y wlad hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; difrodaf hwynt hefyd, a gosodaf hwynt yn syndod, ac yn chwibaniad, ac yn anrhaith tragwyddol.

10. Paraf hefyd i lais hyfrydwch, ac i lais llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, i sŵn y meini melinau, ac i lewyrch y canhwyllau, ballu ganddynt.

11. A'r holl dir hwn fydd yn ddiffeithwch, ac yn syndod: a'r cenhedloedd hyn a wasanaethant frenin Babilon ddeng mlynedd a thrigain.

12. A phan gyflawner deng mlynedd a thrigain, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â'r genedl honno, medd yr Arglwydd, am eu hanwiredd, ac â gwlad y Caldeaid; a mi a'i gwnaf hi yn anghyfannedd tragwyddol.

13. Dygaf hefyd ar y wlad honno fy holl eiriau, y rhai a leferais i yn ei herbyn, sef cwbl ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn; yr hyn a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd.

14. Canys cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddynt hwythau: a mi a dalaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd, ac yn ôl gwaith eu dwylo eu hun.

15. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, wrthyf fi; Cymer ffiol win y digofaint yma o'm llaw, a dod hi i'w hyfed i'r holl genhedloedd y rhai yr wyf yn dy anfon atynt.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 25