Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 25:11-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A'r holl dir hwn fydd yn ddiffeithwch, ac yn syndod: a'r cenhedloedd hyn a wasanaethant frenin Babilon ddeng mlynedd a thrigain.

12. A phan gyflawner deng mlynedd a thrigain, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â'r genedl honno, medd yr Arglwydd, am eu hanwiredd, ac â gwlad y Caldeaid; a mi a'i gwnaf hi yn anghyfannedd tragwyddol.

13. Dygaf hefyd ar y wlad honno fy holl eiriau, y rhai a leferais i yn ei herbyn, sef cwbl ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn; yr hyn a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd.

14. Canys cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddynt hwythau: a mi a dalaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd, ac yn ôl gwaith eu dwylo eu hun.

15. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, wrthyf fi; Cymer ffiol win y digofaint yma o'm llaw, a dod hi i'w hyfed i'r holl genhedloedd y rhai yr wyf yn dy anfon atynt.

16. A hwy a yfant, ac a frawychant, ac a wallgofant, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonaf yn eu plith.

17. Yna mi a gymerais y ffiol o law yr Arglwydd, ac a'i rhoddais i'w hyfed i'r holl genhedloedd y rhai yr anfonasai yr Arglwydd fi atynt:

18. I Jerwsalem, ac i ddinasoedd Jwda, ac i'w brenhinoedd, ac i'w thywysogion: i'w gwneuthur hwynt yn ddiffeithwch, yn syndod, yn chwibaniad, ac yn felltith, fel y mae heddiw;

19. I Pharo brenin yr Aifft, ac i'w weision, ac i'w dywysogion, ac i'w holl bobl;

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 25