Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 23:21-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Ni hebryngais i y proffwydi hyn, eto hwy a redasant; ni leferais wrthynt, er hynny hwy a broffwydasant.

22. A phe safasent yn fy nghyngor, a phe traethasent fy ngeiriau i'm pobl; yna y gwnaethent iddynt ddychwelyd o'u ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eu gweithredoedd.

23. Ai Duw o agos ydwyf fi, medd yr Arglwydd, ac nid Duw o bell?

24. A lecha un mewn dirgel leoedd, fel nas gwelwyf fi ef? medd yr Arglwydd: onid ydwyf fi yn llenwi y nefoedd a'r ddaear? medd yr Arglwydd.

25. Mi a glywais beth a ddywedodd y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd yn fy enw, gan ddywedyd, Breuddwydiais, breuddwydiais.

26. Pa hyd y bydd hyn yng nghalon y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd? ie, proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain ydynt.

27. Y rhai sydd yn meddwl peri i'm pobl anghofio fy enw trwy eu breuddwydion a fynegant bob un i'w gymydog; fel yr anghofiodd eu tadau fy enw, er mwyn Baal.

28. Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged freuddwyd; a'r hwn y mae ganddo fy ngair, llefared fy ngair mewn gwirionedd: beth yw yr us wrth y gwenith? medd yr Arglwydd.

29. Onid yw fy ngair i megis tân? medd yr Arglwydd; ac fel gordd yn dryllio'r graig?

30. Am hynny wele fi yn erbyn y proffwydi, medd yr Arglwydd, y rhai sydd yn lladrata fy ngeiriau, bob un oddi ar ei gymydog.

31. Wele fi yn erbyn y proffwydi, medd yr Arglwydd, y rhai a lyfnhânt eu tafodau, ac a ddywedant, Efe a ddywedodd.

32. Wele fi yn erbyn y rhai a broffwydant freuddwydion celwyddog, medd yr Arglwydd, ac a'u mynegant, ac a hudant fy mhobl â'u celwyddau, ac â'u gwagedd, a mi heb eu gyrru hwynt, ac heb orchymyn iddynt: am hynny ni wnânt ddim lles i'r bobl hyn, medd yr Arglwydd.

33. A phan ofynno y bobl hyn, neu y proffwyd, neu yr offeiriad, i ti, gan ddywedyd, Beth yw baich yr Arglwydd? yna y dywedi wrthynt, Pa faich? eich gwrthod a wnaf, medd yr Arglwydd.

34. A'r proffwyd, a'r offeiriad, a'r bobl, y rhai a ddywedo, Baich yr Arglwydd, myfi a ymwelaf â'r gŵr hwnnw, ac â'i dŷ.

35. Fel hyn y dywedwch bob un wrth ei gymydog, a phob un wrth ei frawd, Beth a atebodd yr Arglwydd? a pha beth a lefarodd yr Arglwydd?

36. Ond am faich yr Arglwydd na wnewch goffa mwyach; canys baich i bawb fydd ei air ei hun: oherwydd chwychwi a wyrasoch eiriau y Duw byw, Arglwydd y lluoedd, ein Duw ni.

37. Fel hyn y dywedi wrth y proffwyd, Pa ateb a roddodd yr Arglwydd i ti? a pha beth a lefarodd yr Arglwydd?

38. Ond gan eich bod yn dywedyd, Baich yr Arglwydd; am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, Baich yr Arglwydd, a mi wedi anfon atoch, gan ddywedyd, Na ddywedwch, Baich yr Arglwydd:

39. Am hynny wele, myfi a'ch llwyr anghofiaf chwi, ac mi a'ch gadawaf chwi, a'r ddinas yr hon a roddais i chwi ac i'ch tadau, ac a'ch bwriaf allan o'm golwg.

40. A mi a roddaf arnoch warthrudd tragwyddol, a gwaradwydd tragywydd, yr hwn nid anghofir.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 23