13. Ar broffwydi Samaria y gwelais hefyd beth diflas: proffwydasant yn Baal, a hudasant fy mhobl Israel.
14. Ac ar broffwydi Jerwsalem y gwelais beth erchyll: torri priodas, a rhodio mewn celwydd: cynorthwyant hefyd ddwylo y drygionus, fel na ddychwel neb oddi wrth ei ddrygioni: y mae y rhai hyn oll i mi fel Sodom, a'i thrigolion fel Gomorra.
15. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd am y proffwydi, Wele, mi a'u bwydaf hwynt â'r wermod, ac a'u diodaf hwynt â dwfr bustl: canys oddi wrth broffwydi Jerwsalem yr aeth lledrith allan i'r holl dir.
16. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Na wrandewch ar eiriau y proffwydi sydd yn proffwydo i chwi: y maent yn eich gwneuthur yn ofer: gweledigaeth eu calon eu hunain a lefarant, ac nid o enau yr Arglwydd.
17. Gan ddywedyd y dywedant wrth fy nirmygwyr, Yr Arglwydd a ddywedodd, Bydd i chwi heddwch; ac wrth bob un sydd yn rhodio wrth amcan ei galon ei hun y dywedant, Ni ddaw arnoch niwed.
18. Canys pwy a safodd yng nghyfrinach yr Arglwydd, ac a welodd ac a glywodd ei air ef? pwy hefyd a ddaliodd ar ei air ef, ac a'i gwrandawodd?
19. Wele, corwynt yr Arglwydd a aeth allan mewn llidiowgrwydd, sef corwynt angerddol a syrth ar ben y drygionus.
20. Digofaint yr Arglwydd ni ddychwel, nes iddo wneuthur, a nes iddo gwblhau meddwl ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hynny yn eglur.
21. Ni hebryngais i y proffwydi hyn, eto hwy a redasant; ni leferais wrthynt, er hynny hwy a broffwydasant.
22. A phe safasent yn fy nghyngor, a phe traethasent fy ngeiriau i'm pobl; yna y gwnaethent iddynt ddychwelyd o'u ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eu gweithredoedd.
23. Ai Duw o agos ydwyf fi, medd yr Arglwydd, ac nid Duw o bell?
24. A lecha un mewn dirgel leoedd, fel nas gwelwyf fi ef? medd yr Arglwydd: onid ydwyf fi yn llenwi y nefoedd a'r ddaear? medd yr Arglwydd.
25. Mi a glywais beth a ddywedodd y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd yn fy enw, gan ddywedyd, Breuddwydiais, breuddwydiais.
26. Pa hyd y bydd hyn yng nghalon y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd? ie, proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain ydynt.
27. Y rhai sydd yn meddwl peri i'm pobl anghofio fy enw trwy eu breuddwydion a fynegant bob un i'w gymydog; fel yr anghofiodd eu tadau fy enw, er mwyn Baal.
28. Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged freuddwyd; a'r hwn y mae ganddo fy ngair, llefared fy ngair mewn gwirionedd: beth yw yr us wrth y gwenith? medd yr Arglwydd.
29. Onid yw fy ngair i megis tân? medd yr Arglwydd; ac fel gordd yn dryllio'r graig?