Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 23:12-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Am hynny y bydd eu ffordd yn llithrig iddynt yn y tywyllwch; gyrrir hwynt rhagddynt, a syrthiant ynddi: canys myfi a ddygaf arnynt ddrygfyd, sef blwyddyn eu gofwy, medd yr Arglwydd.

13. Ar broffwydi Samaria y gwelais hefyd beth diflas: proffwydasant yn Baal, a hudasant fy mhobl Israel.

14. Ac ar broffwydi Jerwsalem y gwelais beth erchyll: torri priodas, a rhodio mewn celwydd: cynorthwyant hefyd ddwylo y drygionus, fel na ddychwel neb oddi wrth ei ddrygioni: y mae y rhai hyn oll i mi fel Sodom, a'i thrigolion fel Gomorra.

15. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd am y proffwydi, Wele, mi a'u bwydaf hwynt â'r wermod, ac a'u diodaf hwynt â dwfr bustl: canys oddi wrth broffwydi Jerwsalem yr aeth lledrith allan i'r holl dir.

16. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Na wrandewch ar eiriau y proffwydi sydd yn proffwydo i chwi: y maent yn eich gwneuthur yn ofer: gweledigaeth eu calon eu hunain a lefarant, ac nid o enau yr Arglwydd.

17. Gan ddywedyd y dywedant wrth fy nirmygwyr, Yr Arglwydd a ddywedodd, Bydd i chwi heddwch; ac wrth bob un sydd yn rhodio wrth amcan ei galon ei hun y dywedant, Ni ddaw arnoch niwed.

18. Canys pwy a safodd yng nghyfrinach yr Arglwydd, ac a welodd ac a glywodd ei air ef? pwy hefyd a ddaliodd ar ei air ef, ac a'i gwrandawodd?

19. Wele, corwynt yr Arglwydd a aeth allan mewn llidiowgrwydd, sef corwynt angerddol a syrth ar ben y drygionus.

20. Digofaint yr Arglwydd ni ddychwel, nes iddo wneuthur, a nes iddo gwblhau meddwl ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hynny yn eglur.

21. Ni hebryngais i y proffwydi hyn, eto hwy a redasant; ni leferais wrthynt, er hynny hwy a broffwydasant.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 23