Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 23:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwae y bugeiliaid sydd yn difetha ac yn gwasgaru defaid fy mhorfa! medd yr Arglwydd.

2. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel yn erbyn y bugeiliaid sydd yn bugeilio fy mhobl; Chwi a wasgarasoch fy nefaid, ac a'u hymlidiasoch, ac nid ymwelsoch â hwynt: wele fi yn ymweled â chwi, am ddrygioni eich gweithredoedd, medd yr Arglwydd.

3. A mi a gasglaf weddill fy nefaid o'r holl wledydd lle y gyrrais hwynt, a mi a'u dygaf hwynt drachefn i'w corlannau; yna yr amlhânt ac y chwanegant.

4. Gosodaf hefyd arnynt fugeiliaid, y rhai a'u bugeilia hwynt; ac nid ofnant mwyach, ac ni ddychrynant, ac ni byddant yn eisiau, medd yr Arglwydd.

5. Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y cyfodaf i Dafydd Flaguryn cyfiawn, a Brenin a deyrnasa ac a lwydda, ac a wna farn a chyfiawnder ar y ddaear.

6. Yn ei ddyddiau ef yr achubir Jwda, ac Israel a breswylia yn ddiogel: a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef, YR ARGLWYDD EIN CYFIAWNDER.

7. Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na ddywedant mwyach, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o wlad yr Aifft:

8. Eithr, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug i fyny, ac a dywysodd had tŷ Israel o dir y gogledd, ac o bob gwlad lle y gyraswn i hwynt; a hwy a gânt aros yn eu gwlad eu hun.

9. Oherwydd y proffwydi y torrodd fy nghalon ynof, fy holl esgyrn a grynant: yr ydwyf fel un meddw, ac fel un wedi i win ei orchfygu; oherwydd yr Arglwydd, ac oherwydd geiriau ei sancteiddrwydd ef.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 23