Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 22:18-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, Ni alarant amdano, gan ddywedyd, O fy mrawd! neu, O fy chwaer! ni alarant amdano ef, gan ddywedyd, O iôr! neu, O ei ogoniant ef!

19. Â chladdedigaeth asyn y cleddir ef, wedi ei lusgo a'i daflu tu hwnt i byrth Jerwsalem.

20. Dring i Libanus, a gwaedda; cyfod dy lef yn Basan, a bloeddia o'r bylchau: canys dinistriwyd y rhai oll a'th garant.

21. Dywedais wrthyt pan oedd esmwyth arnat; tithau a ddywedaist, Ni wrandawaf. Dyma dy arfer o'th ieuenctid, na wrandewaist ar fy llais.

22. A gwynt a ysa dy holl fugeiliaid, a'th gariadau a ânt i gaethiwed: yna y'th gywilyddir, ac y'th waradwyddir am dy holl ddrygioni.

23. Ti yr hon wyt yn trigo yn Libanus, yn nythu yn y cedrwydd, mor hawddgar fyddi pan ddelo gwewyr arnat, fel cnofeydd gwraig yn esgor!

24. Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, pe byddai Coneia mab Jehoiacim brenin Jwda yn fodrwy ar fy neheulaw, diau y tynnwn di oddi yno:

25. A mi a'th roddaf di yn llaw y rhai sydd yn ceisio dy einioes, ac yn llaw y rhai y mae arnat ofn eu hwynebau, sef i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law y Caldeaid.

26. Bwriaf dithau hefyd, a'th fam a'th esgorodd, i wlad ddieithr, yr hon ni'ch ganwyd ynddi, ac yno y byddwch farw.

27. Ond i'r wlad y bydd arnynt hiraeth am ddychwelyd iddi, ni ddychwelant yno.

28. Ai delw ddirmygus ddrylliedig yw y gŵr hwn Coneia? ai llestr yw heb hoffter ynddo? paham y bwriwyd hwynt ymaith, efe a'i had, ac y taflwyd hwynt i wlad nid adwaenant?

29. O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 22