14. Yr hwn a ddywed, Mi a adeiladaf i mi dŷ eang, ac ystafellau helaeth; ac a nadd iddo ffenestri, a llofft o gedrwydd, wedi ei lliwio â fermilion.
15. A gei di deyrnasu, am i ti ymgau mewn cedrwydd? oni fwytaodd ac oni yfodd dy dad, ac oni wnaeth efe farn a chyfiawnder, ac yna y bu dda iddo?
16. Efe a farnodd gŵyn y tlawd a'r anghenus; yna y llwyddodd: onid fy adnabod i oedd hyn? medd yr Arglwydd,
17. Er hynny dy lygaid di a'th galon nid ydynt ond ar dy gybydd‐dod, ac ar dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais, a cham.
18. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, Ni alarant amdano, gan ddywedyd, O fy mrawd! neu, O fy chwaer! ni alarant amdano ef, gan ddywedyd, O iôr! neu, O ei ogoniant ef!
19. Â chladdedigaeth asyn y cleddir ef, wedi ei lusgo a'i daflu tu hwnt i byrth Jerwsalem.
20. Dring i Libanus, a gwaedda; cyfod dy lef yn Basan, a bloeddia o'r bylchau: canys dinistriwyd y rhai oll a'th garant.
21. Dywedais wrthyt pan oedd esmwyth arnat; tithau a ddywedaist, Ni wrandawaf. Dyma dy arfer o'th ieuenctid, na wrandewaist ar fy llais.
22. A gwynt a ysa dy holl fugeiliaid, a'th gariadau a ânt i gaethiwed: yna y'th gywilyddir, ac y'th waradwyddir am dy holl ddrygioni.
23. Ti yr hon wyt yn trigo yn Libanus, yn nythu yn y cedrwydd, mor hawddgar fyddi pan ddelo gwewyr arnat, fel cnofeydd gwraig yn esgor!