1. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Dos di i waered i dŷ brenin Jwda, a llefara yno y gair hwn;
2. A dywed, Gwrando air yr Arglwydd, frenin Jwda, yr hwn wyt yn eistedd ar frenhinfainc Dafydd, ti, a'th weision, a'th bobl y rhai sydd yn dyfod i mewn trwy y pyrth hyn:
3. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gwnewch farn a chyfiawnder, a gwaredwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr: na wnewch gam, ac na threisiwch y dieithr, yr amddifad, na'r weddw, ac na thywelltwch waed gwirion yn y lle hwn.
4. Canys os gan wneuthur y gwnewch y peth hyn, daw trwy byrth y tŷ hwn frenhinoedd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, efe, a'i weision, a'i bobl.
5. Eithr oni wrandewch y geiriau hyn, i mi fy hun y tyngaf, medd yr Arglwydd, y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd.
6. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am dŷ brenin Jwda; Gilead wyt i mi, a phen Libanus: eto yn ddiau mi a'th wnaf yn ddiffeithwch, ac yn ddinasoedd anghyfanheddol.
7. Paratoaf hefyd i'th erbyn anrheithwyr, pob un â'i arfau: a hwy a dorrant dy ddewis gedrwydd, ac a'u bwriant i'r tân.