Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 2:9-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Oblegid hyn, mi a ddadleuaf â chwi eto, medd yr Arglwydd; ie, dadleuaf â meibion eich meibion chwi.

10. Canys ewch dros ynysoedd Chittim, ac edrychwch; a danfonwch i Cedar, ac ystyriwch yn ddiwyd, ac edrychwch a fu y cyfryw beth.

11. A newidiodd un genedl eu duwiau, a hwy heb fod yn dduwiau? eithr fy mhobl i a newidiodd eu gogoniant am yr hyn ni wna lesâd.

12. O chwi nefoedd, synnwch wrth hyn, ac ofnwch yn aruthrol, a byddwch anghyfannedd iawn, medd yr Arglwydd.

13. Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl; hwy a'm gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau, ie, pydewau wedi eu torri, ni ddaliant ddwfr.

14. Ai gwas ydyw Israel? ai gwas a anwyd yn tŷ yw efe? paham yr ysbeiliwyd ef?

15. Y llewod ieuainc a ruasant arno, ac a leisiasant; a'i dir ef a osodasant yn anrhaith, a'i ddinasoedd a losgwyd heb drigiannydd.

16. Meibion Noff hefyd a Thahapanes a dorasant dy gorun di.

17. Onid tydi a beraist hyn i ti dy hun, am wrthod ohonot yr Arglwydd dy Dduw, pan ydoedd efe yn dy arwain ar hyd y ffordd?

18. A'r awr hon, beth sydd i ti a wnelych yn ffordd yr Aifft, i yfed dwfr Nilus? a pheth sydd i ti yn ffordd Asyria, i yfed dwfr yr afon?

19. Dy ddrygioni dy hun a'th gosba di, a'th wrthdro a'th gerydda: gwybydd dithau a gwêl, mai drwg a chwerw ydyw gwrthod ohonot yr Arglwydd dy Dduw, ac nad ydyw fy ofn i ynot ti, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

20. Oblegid er ys talm mi a dorrais dy iau di, ac a ddrylliais dy rwymau; a thi a ddywedaist, Ni throseddaf; er hynny ti a wibiaist, gan buteinio ar bob bryn uchel, a than bob pren deiliog.

21. Eto myfi a'th blanaswn yn bêr winwydden, o'r iawn had oll: pa fodd gan hynny y'th drowyd i mi yn blanhigyn afrywiog gwinwydden ddieithr?

22. Canys pe byddai i ti ymolchi â nitr, a chymryd i ti lawer o sebon; eto nodwyd dy anwiredd ger fy mron i, medd yr Arglwydd Dduw.

23. Pa fodd y dywedi, Ni halogwyd fi, ac nid euthum ar ôl Baalim? Edrych dy ffordd yn y glyn, gwybydd beth a wnaethost; camel buan ydwyt yn amgylchu ei ffyrdd.

24. Asen wyllt wedi ei chynefino â'r anialwch, wrth ddymuniad ei chalon yn yfed gwynt, wrth ei hachlysur pwy a'i try ymaith? pawb a'r a'i ceisiant hi, nid ymflinant; yn ei mis y cânt hi.

25. Cadw dy droed rhag noethni, a'th geg rhag syched. Tithau a ddywedaist, Nid oes obaith. Nac oes: canys cerais ddieithriaid, ac ar eu hôl hwynt yr af fi.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 2