26. Megis y cywilyddia lleidr pan ddalier ef, felly y cywilyddia tŷ Israel; hwynt‐hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, a'u hoffeiriaid, a'u proffwydi;
27. Y rhai a ddywedant wrth bren, Tydi yw fy nhad; ac wrth garreg, Ti a'm cenhedlaist. Canys hwy a droesant ataf fi wegil, ac nid wyneb: ond yn amser eu hadfyd y dywedant, Cyfod, a chadw ni.
28. Eithr pa le y mae dy dduwiau, y rhai a wnaethost i ti? codant, os gallant dy gadw yn amser dy adfyd: canys wrth rifedi dy ddinasoedd y mae dy dduwiau di, O Jwda.
29. Paham yr ymddadleuwch â mi? chwi oll a droseddasoch i'm herbyn, medd yr Arglwydd.
30. Yn ofer y trewais eich plant chwi, ni dderbyniasant gerydd: eich cleddyf eich hun a ddifaodd eich proffwydi, megis llew yn distrywio.
31. O genhedlaeth, gwelwch air yr Arglwydd: A fûm i yn anialwch i Israel? yn dir tywyllwch? paham y dywed fy mhobl, Arglwyddi ydym ni, ni ddeuwn ni mwy atat ti?
32. A anghofia morwyn ei harddwisg? neu y briodasferch ei thlysau? eto fy mhobl i a'm hanghofiasant ddyddiau aneirif.
33. Paham yr wyt ti yn cyweirio dy ffordd i geisio cariad? am hynny hefyd y dysgaist dy ffyrdd i rai drygionus.