Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 2:23-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Pa fodd y dywedi, Ni halogwyd fi, ac nid euthum ar ôl Baalim? Edrych dy ffordd yn y glyn, gwybydd beth a wnaethost; camel buan ydwyt yn amgylchu ei ffyrdd.

24. Asen wyllt wedi ei chynefino â'r anialwch, wrth ddymuniad ei chalon yn yfed gwynt, wrth ei hachlysur pwy a'i try ymaith? pawb a'r a'i ceisiant hi, nid ymflinant; yn ei mis y cânt hi.

25. Cadw dy droed rhag noethni, a'th geg rhag syched. Tithau a ddywedaist, Nid oes obaith. Nac oes: canys cerais ddieithriaid, ac ar eu hôl hwynt yr af fi.

26. Megis y cywilyddia lleidr pan ddalier ef, felly y cywilyddia tŷ Israel; hwynt‐hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, a'u hoffeiriaid, a'u proffwydi;

27. Y rhai a ddywedant wrth bren, Tydi yw fy nhad; ac wrth garreg, Ti a'm cenhedlaist. Canys hwy a droesant ataf fi wegil, ac nid wyneb: ond yn amser eu hadfyd y dywedant, Cyfod, a chadw ni.

28. Eithr pa le y mae dy dduwiau, y rhai a wnaethost i ti? codant, os gallant dy gadw yn amser dy adfyd: canys wrth rifedi dy ddinasoedd y mae dy dduwiau di, O Jwda.

29. Paham yr ymddadleuwch â mi? chwi oll a droseddasoch i'm herbyn, medd yr Arglwydd.

30. Yn ofer y trewais eich plant chwi, ni dderbyniasant gerydd: eich cleddyf eich hun a ddifaodd eich proffwydi, megis llew yn distrywio.

31. O genhedlaeth, gwelwch air yr Arglwydd: A fûm i yn anialwch i Israel? yn dir tywyllwch? paham y dywed fy mhobl, Arglwyddi ydym ni, ni ddeuwn ni mwy atat ti?

32. A anghofia morwyn ei harddwisg? neu y briodasferch ei thlysau? eto fy mhobl i a'm hanghofiasant ddyddiau aneirif.

33. Paham yr wyt ti yn cyweirio dy ffordd i geisio cariad? am hynny hefyd y dysgaist dy ffyrdd i rai drygionus.

34. Hefyd yn dy odre di y cafwyd gwaed eneidiau y tlodion diniwed; nid wrth chwilio y cefais hyn, eithr ar y rhai hyn oll.

35. Eto ti a ddywedi, Am fy mod yn ddiniwed, yn ddiau y try ei lid ef oddi wrthyf. Wele, dadleuaf â thi, am ddywedyd ohonot, Ni phechais.

36. Paham y gwibi di gymaint i newidio dy ffordd? canys ti a waradwyddir oherwydd yr Aifft, fel y'th waradwyddwyd oherwydd Asyria.

37. Hefyd ti a ddeui allan oddi wrtho, a'th ddwylo ar dy ben: oblegid yr Arglwydd a wrthododd dy hyder di, ac ni lwyddi ynddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 2