1. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dos, a chais ystên bridd y crochenydd, a chymer o henuriaid y bobl ac o henuriaid yr offeiriaid,
2. A dos allan i ddyffryn mab Hinnom, yr hwn sydd wrth ddrws porth y dwyrain, a chyhoedda yno y geiriau a ddywedwyf wrthyt;
3. A dywed, Brenhinoedd Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem, clywch air yr Arglwydd: Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar y lle hwn ddrwg, yr hwn pwy bynnag a'i clywo, ei glustiau a ferwinant.
4. Am iddynt fy ngwrthod i, a dieithrio y lle hwn, ac arogldarthu ynddo i dduwiau dieithr, y rhai nid adwaenent hwy, na'u tadau, na brenhinoedd Jwda, a llenwi ohonynt y lle hwn o waed gwirioniaid;
5. Adeiladasant hefyd uchelfeydd Baal, i losgi eu meibion â thân yn boethoffrymau i Baal; yr hyn ni orchmynnais, ac ni ddywedais, ac ni feddyliodd fy nghalon:
6. Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na elwir y lle hwn mwyach Toffet, na Dyffryn mab Hinnom, ond Dyffryn y lladdfa.
7. A mi a wnaf yn ofer gyngor Jwda a Jerwsalem yn y lle hwn, a pharaf iddynt syrthio gan y cleddyf o flaen eu gelynion, a thrwy law y rhai a geisiant eu heinioes hwy: rhoddaf hefyd eu celaneddau hwynt yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.
8. A mi a wnaf y ddinas hon yn anghyfannedd, ac yn ffiaidd; pob un a elo heibio iddi a synna ac a chwibana, oherwydd ei holl ddialeddau hi.