Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 18:16-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. I wneuthur eu tir yn anghyfannedd, ac yn chwibaniad byth: pob un a elo heibio iddo a synna, ac a ysgwyd ei ben.

17. Megis â gwynt y dwyrain y chwalaf hwynt o flaen y gelyn; fy ngwegil ac nid fy wyneb a ddangosaf iddynt yn amser eu dialedd.

18. Yna y dywedasant, Deuwch, a dychmygwn ddychmygion yn erbyn Jeremeia; canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad, na chyngor gan y doeth, na'r gair gan y proffwyd: deuwch, trawn ef â'r tafod, ac nac ystyriwn yr un o'i eiriau ef.

19. Ystyria di wrthyf, O Arglwydd, a chlyw lais y rhai sydd yn ymryson â mi.

20. A delir drwg dros dda? canys cloddiasant ffos i'm henaid: cofia i mi sefyll ger dy fron di i ddywedyd daioni drostynt, ac i droi dy ddig oddi wrthynt.

21. Am hynny dyro eu plant hwy i fyny i'r newyn, a thywallt eu gwaed hwynt trwy nerth y cleddyf; a bydded eu gwragedd heb eu plant, ac yn weddwon; lladder hefyd eu gwŷr yn feirw, a thrawer eu gwŷr ieuainc â'r cleddyf yn y rhyfel.

22. Clywer eu gwaedd o'u tai, pan ddygech fyddin arnynt yn ddisymwth; canys cloddiasant ffos i'm dal, a chuddiasant faglau i'm traed.

23. Tithau, O Arglwydd, a wyddost eu holl gyngor hwynt i'm herbyn i'm lladd i: na faddau eu hanwiredd, ac na ddilea eu pechodau o'th ŵydd; eithr byddant dramgwyddedig ger dy fron; gwna hyn iddynt yn amser dy ddigofaint.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 18