Yn awr gan hynny, atolwg, dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn llunio drwg i'ch erbyn, ac yn dychmygu dychymyg i'ch erbyn: dychwelwch yr awr hon bob un o'i ffordd ddrwg, a gwnewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd yn dda.