Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 17:9-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a'i hedwyn?

10. Myfi yr Arglwydd sydd yn chwilio'r galon, yn profi 'r arennau, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd.

11. Fel petris yn eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd.

12. Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o'r dechreuad, yw lle ein cysegr ni.

13. O Arglwydd, gobaith Israel, y rhai oll a'th wrthodant a waradwyddir, ysgrifennir yn y ddaear y rhai a giliant oddi wrthyf, am iddynt adael yr Arglwydd, ffynnon y dyfroedd byw.

14. Iachâ fi, O Arglwydd, a mi a iacheir; achub fi, a mi a achubir: canys tydi yw fy moliant.

15. Wele hwynt yn dywedyd wrthyf, Pa le y mae gair yr Arglwydd? deued bellach.

16. Ond myfi ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di: ac ni ddymunais y dydd blin, ti a'i gwyddost: yr oedd yr hyn a ddaeth o'm gwefusau yn uniawn ger dy fron di.

17. Na fydd yn ddychryn i mi; ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd.

18. Gwaradwydder fy erlidwyr, ac na'm gwaradwydder i; brawycher hwynt, ac na'm brawycher i: dwg arnynt ddydd drwg, a dryllia hwynt â drylliad dauddyblyg.

19. Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cerdda, a saf ym mhorth meibion y bobl, trwy yr hwn yr â brenhinoedd Jwda i mewn, a thrwy yr hwn y deuant allan, ac yn holl byrth Jerwsalem;

20. A dywed wrthynt, Gwrandewch air yr Arglwydd, brenhinoedd Jwda, a holl Jwda, a holl breswylwyr Jerwsalem, y rhai a ddeuwch trwy y pyrth hyn:

21. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Disgwyliwch ar eich eneidiau, ac na ddygwch faich ar y dydd Saboth, ac na ddygwch ef i mewn trwy byrth Jerwsalem;

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 17