1. Pechod Jwda a ysgrifennwyd â phin o haearn, ag ewin o adamant y cerfiwyd ef ar lech eu calon, ac ar gyrn eich allorau;
2. Gan fod eu meibion yn cofio eu hallorau a'u llwyni wrth y pren deiliog ar y bryniau uchel.
3. O fy mynydd yn y maes, dy olud a'th holl drysorau di a roddaf yn anrhaith, a'th uchelfeydd i bechod, trwy dy holl derfynau.
4. Ti a adewir hefyd dy hunan, heb dy etifeddiaeth a roddais i ti; a mi a wnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn tir nid adwaenost: canys cyneuasoch dân yn fy nig, yr hwn a lysg byth.
5. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Melltigedig fyddo y gŵr a hydero mewn dyn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, a'r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr Arglwydd.
6. Canys efe a fydd fel y grug yn y diffeithwch, ac ni wêl pan ddêl daioni; eithr efe a gyfanhedda boethfannau yn yr anialwch, mewn tir hallt ac anghyfanheddol.
7. Bendigedig yw y gŵr a ymddiriedo yn yr Arglwydd, ac y byddo yr Arglwydd yn hyder iddo.
8. Canys efe a fydd megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd, ac a estyn ei wraidd wrth yr afon, ac ni ŵyr oddi wrth ddyfod gwres; ei ddeilen fydd ir, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid â ffrwytho.
9. Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a'i hedwyn?
10. Myfi yr Arglwydd sydd yn chwilio'r galon, yn profi 'r arennau, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd.
11. Fel petris yn eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd.
12. Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o'r dechreuad, yw lle ein cysegr ni.
13. O Arglwydd, gobaith Israel, y rhai oll a'th wrthodant a waradwyddir, ysgrifennir yn y ddaear y rhai a giliant oddi wrthyf, am iddynt adael yr Arglwydd, ffynnon y dyfroedd byw.