15. Eithr, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd, ac o'r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt: a mi a'u dygaf hwynt drachefn i'w gwlad a roddais i'w tadau.
16. Wele fi yn anfon am bysgodwyr lawer, medd yr Arglwydd, a hwy a'u pysgotant hwy; ac wedi hynny mi a anfonaf am helwyr lawer, a hwy a'u heliant hwynt oddi ar bob mynydd, ac oddi ar bob bryn, ac o ogofeydd y creigiau.
17. Canys y mae fy ngolwg ar eu holl ffyrdd hwynt: nid ydynt guddiedig o'm gŵydd i, ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedig oddi ar gyfer fy llygaid.
18. Ac yn gyntaf myfi a dalaf yn ddwbl am eu hanwiredd a'u pechod hwynt; am iddynt halogi fy nhir â'u ffiaidd gelanedd; ie, â'u ffieidd‐dra y llanwasant fy etifeddiaeth.
19. O Arglwydd, fy nerth a'm cadernid, a'm noddfa yn nydd blinder; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear, ac a ddywedant, Diau mai celwydd a ddarfu i'n tadau ni ei etifeddu, oferedd, a phethau heb les ynddynt.
20. A wna dyn dduwiau iddo ei hun, a hwythau heb fod yn dduwiau?
21. Am hynny wele, mi a wnaf iddynt wybod y waith hon, dangosaf iddynt fy llaw a'm grym: a chânt wybod mai yr Arglwydd yw fy enw.