Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 16:11-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Yna y dywedi wrthynt, Oherwydd i'ch tadau fy ngadael i, medd yr Arglwydd, a myned ar ôl duwiau dieithr, a'u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt, a'm gwrthod i, a bod heb gadw fy nghyfraith;

12. A chwithau a wnaethoch yn waeth na'ch tadau, canys wele chwi yn rhodio bob un yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg, heb wrando arnaf;

13. Am hynny mi a'ch taflaf chwi o'r tir hwn, i wlad nid adwaenoch chwi na'ch tadau; ac yno y gwasanaethwch dduwiau dieithr ddydd a nos, lle ni ddangosaf i chwi ffafr.

14. Gan hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na ddywedir mwyach, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o dir yr Aifft:

15. Eithr, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd, ac o'r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt: a mi a'u dygaf hwynt drachefn i'w gwlad a roddais i'w tadau.

16. Wele fi yn anfon am bysgodwyr lawer, medd yr Arglwydd, a hwy a'u pysgotant hwy; ac wedi hynny mi a anfonaf am helwyr lawer, a hwy a'u heliant hwynt oddi ar bob mynydd, ac oddi ar bob bryn, ac o ogofeydd y creigiau.

17. Canys y mae fy ngolwg ar eu holl ffyrdd hwynt: nid ydynt guddiedig o'm gŵydd i, ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedig oddi ar gyfer fy llygaid.

18. Ac yn gyntaf myfi a dalaf yn ddwbl am eu hanwiredd a'u pechod hwynt; am iddynt halogi fy nhir â'u ffiaidd gelanedd; ie, â'u ffieidd‐dra y llanwasant fy etifeddiaeth.

19. O Arglwydd, fy nerth a'm cadernid, a'm noddfa yn nydd blinder; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear, ac a ddywedant, Diau mai celwydd a ddarfu i'n tadau ni ei etifeddu, oferedd, a phethau heb les ynddynt.

20. A wna dyn dduwiau iddo ei hun, a hwythau heb fod yn dduwiau?

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 16