Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 16:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gair yr Arglwydd a ddaeth hefyd ataf fi, gan ddywedyd,

2. Na chymer i ti wraig, ac na fydded i ti feibion na merched, yn y lle hwn.

3. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am y meibion ac am y merched a anwyd yn y lle hwn, ac am eu mamau a'u dug hwynt, ac am eu tadau a'u cenhedlodd hwynt yn y wlad hon;

4. O angau nychlyd y byddant feirw: ni alerir amdanynt, ac nis cleddir hwynt: byddant fel tail ar wyneb y ddaear, a darfyddant trwy y cleddyf, a thrwy newyn; a'u celaneddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.

5. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Na ddos i dŷ y galar, ac na ddos i alaru, ac na chwyna iddynt: canys myfi a gymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn, medd yr Arglwydd, sef trugaredd a thosturi.

6. A byddant feirw yn y wlad hon, fawr a bychan: ni chleddir hwynt, ac ni alerir amdanynt; nid ymdorrir ac nid ymfoelir drostynt.

7. Ni rannant iddynt fwyd mewn galar, i roi cysur iddynt am y marw; ac ni pharant iddynt yfed o ffiol cysur, am eu tad, neu am eu mam.

8. Na ddos i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwynt i fwyta ac i yfed.

9. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, ddarfod o'r lle hwn, o flaen eich llygaid, ac yn eich dyddiau chwi.

10. A phan ddangosech i'r bobl yma yr holl eiriau hyn, ac iddynt hwythau ddywedyd wrthyt, Am ba beth y llefarodd yr Arglwydd yr holl fawr ddrwg hyn i'n herbyn ni? neu, Pa beth yw ein hanwiredd? neu, Beth yw ein pechod a bechasom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw?

11. Yna y dywedi wrthynt, Oherwydd i'ch tadau fy ngadael i, medd yr Arglwydd, a myned ar ôl duwiau dieithr, a'u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt, a'm gwrthod i, a bod heb gadw fy nghyfraith;

12. A chwithau a wnaethoch yn waeth na'ch tadau, canys wele chwi yn rhodio bob un yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg, heb wrando arnaf;

13. Am hynny mi a'ch taflaf chwi o'r tir hwn, i wlad nid adwaenoch chwi na'ch tadau; ac yno y gwasanaethwch dduwiau dieithr ddydd a nos, lle ni ddangosaf i chwi ffafr.

14. Gan hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na ddywedir mwyach, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o dir yr Aifft:

15. Eithr, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd, ac o'r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt: a mi a'u dygaf hwynt drachefn i'w gwlad a roddais i'w tadau.

16. Wele fi yn anfon am bysgodwyr lawer, medd yr Arglwydd, a hwy a'u pysgotant hwy; ac wedi hynny mi a anfonaf am helwyr lawer, a hwy a'u heliant hwynt oddi ar bob mynydd, ac oddi ar bob bryn, ac o ogofeydd y creigiau.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 16