Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 15:4-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Ac a'u rhoddaf hwynt i'w symudo i holl deyrnasoedd y ddaear; herwydd Manasse mab Heseceia brenin Jwda, am yr hyn a wnaeth efe yn Jerwsalem.

5. Canys pwy a drugarha wrthyt ti, O Jerwsalem? a phwy a gwyna i ti? a phwy a dry i ymofyn pa fodd yr wyt ti?

6. Ti a'm gadewaist, medd yr Arglwydd, ac a aethost yn ôl: am hynny yr estynnaf fy llaw yn dy erbyn di, ac a'th ddifethaf; myfi a flinais yn edifarhau.

7. A mi a'u chwalaf hwynt â gwyntyll ym mhyrth y wlad: diblantaf, difethaf fy mhobl, gan na ddychwelant oddi wrth eu ffyrdd.

8. Eu gweddwon a amlhasant i mi tu hwnt i dywod y môr: dygais arnynt yn erbyn mam y gwŷr ieuainc, anrheithiwr ganol dydd; perais iddo syrthio yn ddisymwth arni hi, a dychryn ar y ddinas.

9. Yr hon a blantodd saith, a lesgaodd: ei henaid hi a lesmeiriodd, ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd; hi a gywilyddiodd, ac a waradwyddwyd; a rhoddaf y gweddillion ohonynt i'r cleddyf yng ngŵydd eu gelynion, medd yr Arglwydd.

10. Gwae fi, fy mam, ymddŵyn ohonot fi yn ŵr ymryson ac yn ŵr cynnen i'r holl ddaear! ni logais, ac ni logwyd i mi; eto pawb ohonynt sydd yn fy melltithio i.

11. Yr Arglwydd a ddywedodd, Yn ddiau bydd dy weddill di mewn daioni; yn ddiau gwnaf i'r gelyn fod yn dda wrthyt, yn amser adfyd ac yn amser cystudd.

12. A dyr haearn yr haearn o'r gogledd, a'r dur?

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 15