Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 15:10-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Gwae fi, fy mam, ymddŵyn ohonot fi yn ŵr ymryson ac yn ŵr cynnen i'r holl ddaear! ni logais, ac ni logwyd i mi; eto pawb ohonynt sydd yn fy melltithio i.

11. Yr Arglwydd a ddywedodd, Yn ddiau bydd dy weddill di mewn daioni; yn ddiau gwnaf i'r gelyn fod yn dda wrthyt, yn amser adfyd ac yn amser cystudd.

12. A dyr haearn yr haearn o'r gogledd, a'r dur?

13. Dy gyfoeth a'th drysorau a roddaf yn ysbail, nid am werth, ond oblegid dy holl bechodau, trwy dy holl derfynau.

14. Gwnaf i ti fyned hefyd gyda'th elynion i dir nid adwaenost: canys tân a enynnodd yn fy nigofaint, arnoch y llysg.

15. Ti a wyddost, Arglwydd; cofia fi, ac ymwêl â mi, a dial drosof ar fy erlidwyr; na ddwg fi ymaith yn dy hirymaros: gwybydd ddwyn ohonof waradwydd er dy fwyn di.

16. Dy eiriau a gaed, a mi a'u bwyteais hwynt; ac yr oedd dy air di i mi yn llawenydd ac yn hyfrydwch fy nghalon: canys dy enw di a alwyd arnaf fi, O Arglwydd Dduw y lluoedd.

17. Nid eisteddais yng nghymanfa y gwatwarwyr, ac nid ymhyfrydais: eisteddais fy hunan oherwydd dy law di; canys ti a'm llenwaist i o lid.

18. Paham y mae fy nolur i yn dragwyddol? a'm pla yn anaele, fel na ellir ei iacháu? a fyddi di i mi megis celwyddog, neu fel dyfroedd a ballant?

19. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os dychweli, yna y'th ddygaf eilwaith, a thi a sefi ger fy mron; os tynni ymaith y gwerthfawr oddi wrth y gwael, byddi fel fy ngenau i: dychwelant hwy atat ti, ond na ddychwel di atynt hwy.

20. Gwnaf di hefyd i'r bobl yma yn fagwyr efydd gadarn; a hwy a ryfelant yn dy erbyn di, eithr ni'th orchfygant: canys yr ydwyf fi gyda thi, i'th achub ac i'th wared, medd yr Arglwydd.

21. A mi a'th waredaf di o law y rhai drygionus, ac a'th ryddhaf di o law yr ofnadwy.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 15