Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 14:6-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A'r asynnod gwylltion a safasant yn y lleoedd uchel; yfasant wynt fel dreigiau: eu llygaid hwy a ballasant, am nad oedd gwellt.

7. O Arglwydd, er i'n hanwireddau dystiolaethu i'n herbyn, gwna di er mwyn dy enw: canys aml yw ein cildynrwydd ni; pechasom i'th erbyn.

8. Gobaith Israel, a'i geidwad yn amser adfyd, paham y byddi megis pererin yn y tir, ac fel ymdeithydd yn troi i letya dros noswaith?

9. Paham y byddi megis gŵr wedi synnu? fel gŵr cadarn heb allu achub? eto yr ydwyt yn ein mysg ni, Arglwydd, a'th enw di a elwir arnom: na ad ni.

10. Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth y bobl hyn, Fel hyn yr hoffasant hwy grwydro, ac ni ataliasant eu traed: am hynny nis myn yr Arglwydd hwy; yr awr hon y cofia efe eu hanwiredd hwy, ac a ymwêl â'u pechodau.

11. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Na weddïa dros y bobl hyn am ddaioni.

12. Pan ymprydiant, ni wrandawaf eu gwaedd hwynt; a phan offrymant boeth‐offrwm a bwyd‐offrwm, ni byddaf bodlon iddynt: ond â'r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, y difâf hwynt.

13. Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, wele, mae y proffwydi yn dywedyd wrthynt, Ni welwch chwi gleddyf, ac ni ddaw newyn atoch; eithr mi a roddaf heddwch sicr i chwi yn y lle yma.

14. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Y proffwydi sydd yn proffwydo celwyddau yn fy enw i; nid anfonais hwy, ni orchmynnais iddynt chwaith, ac ni leferais wrthynt: gau weledigaeth, a dewiniaeth, a choegedd, a thwyll eu calon eu hun, y maent hwy yn eu proffwydo i chwi.

15. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am y proffwydi sydd yn proffwydo yn fy enw i, a minnau heb eu hanfon hwynt, eto hwy a ddywedant, Cleddyf a newyn ni bydd yn y tir hwn; Trwy gleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 14