1. Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia o achos y drudaniaeth.
2. Galara Jwda, a'i phyrth a lesgânt; y maent yn ddu hyd lawr, a gwaedd Jerwsalem a ddyrchafodd i fyny.
3. A'u boneddigion a hebryngasant eu rhai bychain i'r dwfr: daethant i'r ffosydd, ni chawsant ddwfr; dychwelasant â'u llestri yn weigion: cywilyddio a gwladeiddio a wnaethant, a chuddio eu pennau.
4. Oblegid agennu o'r ddaear, am nad oedd glaw ar y ddaear, cywilyddiodd y llafurwyr, cuddiasant eu pennau.
5. Ie, yr ewig hefyd a lydnodd yn y maes, ac a'i gadawodd, am nad oedd gwellt.
6. A'r asynnod gwylltion a safasant yn y lleoedd uchel; yfasant wynt fel dreigiau: eu llygaid hwy a ballasant, am nad oedd gwellt.
7. O Arglwydd, er i'n hanwireddau dystiolaethu i'n herbyn, gwna di er mwyn dy enw: canys aml yw ein cildynrwydd ni; pechasom i'th erbyn.
8. Gobaith Israel, a'i geidwad yn amser adfyd, paham y byddi megis pererin yn y tir, ac fel ymdeithydd yn troi i letya dros noswaith?
9. Paham y byddi megis gŵr wedi synnu? fel gŵr cadarn heb allu achub? eto yr ydwyt yn ein mysg ni, Arglwydd, a'th enw di a elwir arnom: na ad ni.
10. Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth y bobl hyn, Fel hyn yr hoffasant hwy grwydro, ac ni ataliasant eu traed: am hynny nis myn yr Arglwydd hwy; yr awr hon y cofia efe eu hanwiredd hwy, ac a ymwêl â'u pechodau.