Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 12:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Cyfiawn wyt, Arglwydd, pan ddadleuwyf â thi: er hynny ymresymaf â thi am dy farnedigaethau: Paham y llwydda ffordd yr anwir, ac y ffynna yr anffyddloniaid oll?

2. Plennaist hwy, ie, gwreiddiasant; cynyddant, ie, dygant ffrwyth; agos wyt yn eu genau, a phell oddi wrth eu harennau.

3. Ond ti, Arglwydd, a'm hadwaenost i; ti a'm gwelaist, ac a brofaist fy nghalon tuag atat; tyn allan hwynt megis defaid i'r lladdfa, a pharatoa hwynt erbyn dydd y lladdfa.

4. Pa hyd y galara y tir, ac y gwywa gwellt yr holl faes, oblegid drygioni y rhai sydd yn trigo ynddo? methodd yr anifeiliaid a'r adar, oblegid iddynt ddywedyd, Ni wêl efe ein diwedd ni.

5. O rhedaist ti gyda'r gwŷr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdrewi â'r meirch? ac os blinasant di mewn tir heddychlon, yn yr hwn yr ymddiriedaist, yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Iorddonen?

6. Canys dy frodyr, a thŷ dy dad, ie, y rhai hynny a wnaethant yn anffyddlon â thi; hwynt‐hwy hefyd a waeddasant yn groch ar dy ôl: na choelia hwy, er iddynt ddywedyd geiriau teg wrthyt.

7. Gadewais fy nhŷ, gadewais fy etifeddiaeth; mi a roddais anwylyd fy enaid yn llaw ei gelynion.

8. Fy etifeddiaeth sydd i mi megis llew yn y coed, rhuo y mae i'm herbyn; am hynny caseais hi.

9. Y mae fy etifeddiaeth i mi fel aderyn brith; y mae yr adar o amgylch yn ei herbyn hi: deuwch, ymgesglwch, holl fwystfilod y maes, deuwch i ddifa.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 12